Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Tachwedd 2018
Amser:
08.53 -
12.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5100
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Huw Morris, Llywodraeth Cymru Steve Davies, Llywodraeth Cymru Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol Alan Brace, Llywodraeth Cymru Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Phil Boshier (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rebekah James (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, a diolchodd i Llyr Gruffydd am ei holl waith yn ystod ei gyfnod ar y Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David a Michelle Brown. Nid oedd unrhyw un yn dirprwyo ar eu rhan.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar y gyllideb ddrafft.
2.2 Cytunwyd i'r canlynol:
· Hysbysu'r Pwyllgor pan fydd adroddiad cynnydd ar gael ar effaith y gwariant a ddefnyddiwyd i leihau maint dosbarthiadau babanod;
· Dadansoddiad o'r cydrannau o'r Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol yn 2019-20 gan gynnwys y symiau cyfatebol yn 2018-19 a chadarnhad o p'un a yw'r elfennau unigol yn parhau i fod wedi'u neilltuo at eu diben penodol;
· Nodyn yn manylu rhagolwg Llywodraeth Cymru o'r cyfanswm y disgwylir i gael ei drosglwyddo i CCAUC ac addysg bellach o ganlyniad i weithredu adolygiad Diamond yn llawn a rhagolwg o ran pryd y disgwylir i'r cyllid hwn gael ei ryddhau i'r sectorau yn ôl blwyddyn ariannol;
·
Nodyn yn darparu i'r Pwyllgor gyda phob dyraniad
cyllid (h.y. 6ed dosbarth, FEC, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a
dyraniadau penodol eraill) o fewn y Cynllun Addysg
Ôl-16.
3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar y gyllideb ddrafft.
3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu dadansoddiad o ble yn union y dyfarnwyd swm canlyniadol yr ardoll diodydd meddal gwerth £57 miliwn yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
4.1
Cafodd y papurau eu nodi.
5.1
Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau'r bore.